Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Mehefin 2020
Amser:
10.00 -
11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6352
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dylan Hughes, Llywodraeth Cymru Helen Lentle, Llywodraeth Cymru Neil Surman, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 - sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020, fel y’u diwygiwyd.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)551 - Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 SL(5)550 - Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.2 SL(5)552 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.3 SL(5)554 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
5.1 SL(5)549 - Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol
Nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol, ac y byddai’n cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mehefin 2020.
7 Papur(au) i'w nodi
7.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol - adroddiadau statudol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
9.1 SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020
Ar ôl trafod y Gorchymyn yn flaenorol yn y cyfarfodydd ar 4 Mai a 1 Mehefin 2020, trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r pwyntiau a godwyd yn ei adroddiad ar y Gorchymyn, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at faterion yn ymwneud â hygyrchedd y gyfraith.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch Tân - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor a derbyniwyd yr adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Diogelwch Tân, yn ddarostyngedig i un mân ddiwygiad. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 18 Mehefin 2020.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach - trafod yr ohebiaeth â’r Gweinidog
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Masnach, a chytunodd y byddai’n trafod yr adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Cyllid a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.